Newyddion S4C

Scott Quinnell: ‘Y Gymraeg wedi agor cymaint o ddrysau i fi’

Scott Quinnell

Mae Scott Quinnell wedi dweud fod y Gymraeg wedi “agor cymaint o ddrysau” iddo ers dysgu’r iaith.

Mae’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol wrthi yn ffilmio cyfres newydd i S4C fydd yn cael ei dangos yn yr Hydref – Cais Quinnell.

Mae Scott wedi parhau i ddysgu Cymraeg ers ymddangos ar raglen Iaith ar Daith yn 2020 a’i hyder i’w siarad yn gyhoeddus wedi tyfu, meddai.

“Mae dysgu Cymraeg a chael yr hyder i’w defnyddio wedi agor cymaint o ddrysau i mi yn bersonol,” meddai.

“Mae’n wir fod gallu siarad dwy iaith yn dyblu’r cyfleoedd i wneud mwy o bethau amrywiol.

“Dwi yn gwneud camgymeriadau, ond os ti ddim dwyt ti ddim yn datblygu. Os ti ddim yn gwneud camgymeriadau sut wyt ti’n dysgu?

“Mae’n wir ‘mod i wedi blino lot mwy ar ddiwedd diwrnod ffilmio achos mod i’n gwneud tasgau ac yn siarad Cymraeg – mae cael dysgu sgil newydd a dysgu Cymraeg ar yr un pryd i gyd o flaen y camera, wel dyna’r ffordd i wneud e’.”

‘Sialens’

Yn y gyfres i S4C bydd Scott yn mynd i’r mannau rhyfeddaf wrth iddo brofi’r gweithgareddau mwyaf gwallgof ac amrywiol sydd gan Gymru i’w cynnig.

Fe fydd Scott yn ymweld â sba ar gyfer moch; yn dysgu iodlan ac yn cael gwers ar sut mae bod yn berfformiwr drag. Bydd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn ymuno gydag ef ar bob rhaglen.

Bydd Scott hefyd yn parhau i dderbyn gwersi Cymraeg gyda’i diwtor iaith, Aran Jones o Say Something in Welsh, a bydd platfformau dysgu Cymraeg S4C yn darparu rhannau o’r gwersi hyn i’w gweld yn ehangach.  

Er bod Scott wedi ennill mwy na hanner cant o gapiau i Gymru ac wedi chwarae i’r Llewod, mae’n cyfaddef bod dysgu Cymraeg wedi bod ymysg y sialensiau anoddaf iddo fe wynebu.

“Mae chwarae rygbi yn hawdd i fi, wy wedi ei chwarae ar hyd fy mywyd,” meddai.

“Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn sialens ond fi wedi mwynhau trochi fy hunan yn yr iaith ac wy’n frwd i gario ‘mlaen.”

Un o hoff ddywediadau Scott yn Gymraeg yw ‘man a man’ – symbol o’i agwedd gadarnhaol at y Gymraeg.

‘Balch’

Dyma raglen sydd yn rhan o ddarpariaeth S4C gyda’r nod o annog siaradwyr newydd ymarfer eu Cymraeg wrth wylio rhaglenni iaith Gymraeg, ac i feithrin hyder i siarad a defnyddio’r iaith.

Dywedodd Sara Peacock, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg S4C bod S4C yn frwd i gefnogi a hyrwyddo cyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg ar gyfer pawb.

“Mae S4C yn falch iawn o allu cefnogi pawb sydd yn ymrwymo i ddysgu Cymraeg, ar bob lefel, felly mae wedi bod yn bleser i ddilyn Scott ar ei daith o fod yn ddechreuwr pur tuag at siaradwr newydd,” meddai.

“Mae ei ddyfalbarhad ac agwedd bositif wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Bydd y gyfres newydd hon yn dangos sut gall y sgiliau newydd hyn helpu pawb i wneud y peth pwysicaf oll – siarad ein hiaith yn ein bywydau o ddydd i ddydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.