Mam yn ymddangos o flaen llys wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed
Mae mam o Gendros, Abertawe wedi ymddangos o flaen llys wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab chwech oed a cheisio llofruddio ei thad.
Fe wnaeth Karolina Zurawska, 41 oed o Gendros, Abertawe, ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe fore Gwener.
Mae hi wediâi chyhuddo o lofruddio ei mab Alexander Zurawski a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn eiddo yn Gendros ar Awst 29.
Mae hi hefyd wediâi chyhuddo o geisio llofruddio ei thad, Krzysztof Siwi, 67, yn gynharach yr un diwrnod.
Fe ymddangosodd Zurawska trwy gyswllt fideo o'r ddalfa ar gyfer y gwrandawiad byr gerbron y Barnwr Paul Thomas.
Ni ofynnwyd iddi bledio i'r ddau gyhuddiad yn ei herbyn.
Dywedodd y barnwr na fyddai yr achos llys yn cychwyn ar Chwefror 17 fel yr oedd wedi bwriadu yn wreiddiol er mwyn rhoi cyfle i adroddiadau pellach gael eu casglu.
Bydd gwrandawiad byr i drafod manylion yr achos yn cael ei gynnal ar y dyddiad hwnnw yn lle.
Dywedodd y Barnwr Thomas wrth y llys: âRwyân gobeithio ar y dyddiad hwnnw y bydd modd gweld cynnydd un ffordd neuâr llall, hyd yn oed os mai dim ond pennu dyddiad treial newydd fydd hynny.â
Ymddangosodd Mike Jones KC ar ran yr erlyniad yn ystod y gwrandawiad, tra bod John Hipkin KC yn cynrychioli Zurawska.
âBachgen hynod annwyl a phoblogaiddâ
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Heddlu De Cymru yn dilyn ei farwolaeth, disgrifiodd teulu Alexander ef fel âplentyn caredig iawnâ.
âRoedd wrth ei fodd yn chwarae gydaâi chwaer fach ac yn chwarae gydaâi gi, Daisy.
âRoedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.
âRoedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
âRoedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau."
Ychwanegodd y deyrnged: âRoedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddaiân aml yn cywiro ei rieni gydaâu Saesneg os oedden nhwân cael geiriauân anghywir.
âRoedd yn anhygoel.â