Cludo person i'r ysbyty ar ôl i gar droi ar ei ochr wrth Gronfa Ddŵr Claerwen
Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty ar ôl i gar droi ar ei ochr ger Cronfa Ddŵr Claerwen yng Nghwm Elan.
Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Raeadr Gwy, Llandrindod, Llanidloes, Y Trallwng ac Aberystwyth eu galw i'r gronfa ddŵr am 15.54 ddydd Iau.
Roedd pedwar person wedi eu hanafu yn y gwrthdrawiad un car, gydag un ohonynt yn cael eu cludo i'r ysbyty mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau.
Fe wnaeth y car droi trosodd a dod i stop ar ei ochr wrth ymyl y gronfa ddŵr yng Nghwm Elan, Rhaeadr Gwy.
Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y tywyllwch a bod wrth ymyl y dŵr yn golygu bod yr amodau wrth achub y rhai oedd yn y car yn anodd.
"Roedd y digwyddiad hwn yn arbennig o heriol oherwydd diffyg golau, tirwedd anodd, lleoliad agos at ymyl y dŵr, signal radio a ffôn gwael ac amodau rhewllyd," medden nhw.
"Roedd angen ymateb nifer o wasanaethau i'r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Criwiau Achub Mynydd Aberhonddu a staff Gwylwyr y Glannau hefyd yn bresennol."
Roedd y criwiau wedi gadael y gronfa ddŵr am 20.52.
Cymeryd gofal wrth yrru
Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn galw ar drigolion i gymryd gofal arbennig wrth yrru yn y gaeaf.
"Mae'r gaeaf, o'r holl dymhorau, angen y gofal a'r sylw mwyaf os ydych am aros yn ddiogel ar y ffyrdd," medden nhw.
"Bydd gwneud paratoadau syml i wneud yn siŵr bod eich car yn addas, tra hefyd yn ystyried y tywydd presennol a'r amodau ffyrdd, cynllunio'ch taith cyn cychwyn ac addasu eich arddull gyrru ar gyfer yr amodau yn helpu i leihau'r risgiau'r gaeaf hwn."
Lluniau: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru