Newyddion S4C

Canmol Coldplay am ddefnyddio'r Gymraeg wrth chwarae yng Nghaerdydd

Canmol Coldplay am ddefnyddio'r Gymraeg wrth chwarae yng Nghaerdydd

Mae’r band byd enwog, Coldplay, wedi derbyn canmoliaeth am gynnwys y Gymraeg yn ystod dwy noson o berfformio yn y brifddinas. 

Mae’r band wedi derbyn canmoliaeth gan sawl un ar gyfryngau cymdeithasol am eu defnydd o’r iaith Gymraeg ar ôl dau gyngerdd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Fawrth a nos Fercher.

Fel rhan o’r perfforormiadau roedd arwyddion dwyieithog i’w gweld, a rheiny’n annog y gynulleidfa i gymryd rhan ar bob achlysur. 

Fe gafodd prif leisydd y band, Chris Martin, glod hefyd gan sawl un am ymdrechu i siarad yr iaith ac am berfformio’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.

Bu canmoliaeth hefyd am ddathlu diwylliant Cymru wedi i’r band dewis yr artist Hana Lili, sy’n 23 oed ac yn wreiddiol o Sili ger Penarth, i agor y ddwy noson cyn i Coldplay gamu ar y llwyfan.

​​​​​​Cafodd prif leisydd Stereophonics, Kelly Jones yn wreiddiol o Gwmaman, gwahoddiad i ymuno’r llwyfan ar y ddwy noson, ac roedd yna berfformiad gan Gôr Meibion Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd Coldplay yn perfformio yng Nghaerdydd ar 6 a 7 Mehefin fel rhan o gyngerdd sy’n ymweld â dinasoedd ledled y byd eleni.

Llun: Sebwes89 (CC BY-SA 4.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.