Newyddion S4C

Cyffro yng Nghaerdydd wrth i Coldplay chwarae yn y brifddinas

06/06/2023
coldplay.jpg

Bydd y band byd-enwog Coldplay yn chwarae yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Fawrth. 

Daw hyn ychydig wythnosau ar ôl i'r seren ryngwladol, Beyoncé, hefyd berfformio yn y brifddinas. 

Bydd Coldplay yn perfformio yn Stadiwm y Principality nos Fercher hefyd fel rhan o'u taith fyd-eang. 

Fe fydd Hana Lili, sy'n 23 oed ac yn wreiddiol o Sili ger Penarth, yn agor y ddwy noson cyn i Coldplay gamu ar y llwyfan, tra bydd y band o'r Alban, Chvrches, hefyd yn chwarae.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig y cyfle i 100 o bobl deithio am ddim i'r cyngerdd, rhywbeth sydd wedi cael ei gefnogi gan y band. 

Dywedodd swyddog diwylliant Trafnidiaeth Cymru, Marie Daly, ei bod hi'n "wych i weld band byd-enwog fel Coldplay yn rhannu'r un angerdd am drafnidiaeth gynaliadwy, ac rydym yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid ennill tocyn trên am ddim i Gaerdydd ac yn ôl."

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi rhybuddio y bydd ffyrdd yng nghanol y brifddinas wedi cau o 16:00 i hanner nos ar y ddau ddyddiad. 

Mae'r cyngor hefyd yn cynghori pobl i "gynllunio ymlaen" ac i ddisgwyl y bydd traffordd yr M4 yn "ofnadwy o brysur". 

Cyhoeddodd Coldplay yn 2021 eu bod yn bwriadu rhoi'r gorau i recordio cerddoriaeth fel band yn 2025. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.