Newyddion S4C

Dros 280 o bobl wedi eu lladd mewn damwain trên yn India

03/06/2023
S4C

Mae o leiaf 280 bobl wedi’u lladd a 650 wedi’u hanafu mewn damwain yn cynnwys tri thrên yn nhalaith ddwyreiniol Odisha yn India, meddai swyddogion.

Mae disgwyl i nifer y marwolaethau godi yn ystod y dydd, gan fod llawer o bobl yn dal i fod yn gaeth o dan y rwbel.

Nid yw achos y ddamwain yn glir eto.

Dywedodd swyddogion fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng tri thrên am tua 19:00 amser lleol yn ardal Balasore.

"Rydym yn ceisio cyrraedd y teithwyr. Mae'n rhaid i ni hefyd fod yn ofalus i beidio â brifo'r rhai sy'n fyw," meddai Atul Karwal, Pennaeth y Llu Ymateb i Drychinebau Cenedlaethol (NDRF).

Dywedodd mai hon oedd "y drydedd ddamwain fwyaf marwol yn hanes rheilffyrdd India".

Anfonwyd mwy na 200 o ambiwlansys a channoedd o feddygon a  nyrsys i’r lleoliad, meddai prif ysgrifennydd y wladwriaeth, Pradeep Jena.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.