Newyddion S4C

Pryder am gynlluniau i adnewyddu Marchnad Caerdydd

Newyddion S4C 02/06/2023

Pryder am gynlluniau i adnewyddu Marchnad Caerdydd

Mae rhai stondinwyr ym marchnad Caerdydd yn poeni am effaith posib cynlluniau'r cyngor i adnewyddu’r adeilad hanesyddol.

Fel rhan o'r datblygiad, fe fydd yna ardal fwyta gyda lle i 70 o seddi - ac mae nifer o fusnesau yn poeni y gallai hynny fod yn ergyd ariannol.

Maen nhw hefyd yn ofni y gallai amharu ar “hanes a chymeriad” y farchnad.

Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor, y nod yw “denu mwy o ymwelwyr newydd” ond gan sicrhau eu bod yn “gofalu am elfennau gwreiddiol” sy’n perthyn i’r lle.

Mae Ieuan Harry o gwmnu Ffwrnes Pizza yn croesawu’r penderfyniad tra hefyd yn rhybuddio nad oes angen gweddnewidiad llwyr.

“Yn y bôn mae’r cynlluniau yn edrych yn ffab," meddai.

Image
Ieuan Harry
Ieuan Harry o Ffwrnes Pizza.

“Ond os dyw e heb dorri, sydd ddim isio trwsio fe. Ma' 'na reswm bod yr farchnad yn llwyddiannus, a hwnna yw ma'n gweithio fel ma' fe.

Beth i ni di gweld o'r cynlluniau bod nhw'n treial cadw cymeriad a golwg sylfaenol y marchnad sy'n beth pwysig.

“Peth pwysig am y marchnad 'ma yw'r cymysgedd o bobl sy' 'ma. Ma' 'da ni cymysgedd o stondinau traddodiadol, yr hen stondinau a wedyn y stondinau bwyd newydd yn cynnwys ni fel un o nhw.

“A ma'n bwysig bo ni'n cadw'r cymeriad 'na yn y marchnad achos mae'n cynhyrchiad perffaith o holl bobl Caerdydd.”

Yn 'dda i'r farchnad'

Agorwyd y farchnad yn 1891 ac mae 2.2 miliwn o bobl yn pasio drwyddi bob blwyddyn.

Ar gost o filiynau o bunnau, meddai'r cyngor, fe fydd yr adeilad cofrestredig gradd II yn gartref i 61 o fusnesau.

Fe fydd na waith adnewyddu i’r to sy’n gollwng dŵr, gan osod paneli solar arno ynghyd â datgelu’r lloriau gwreiddiol sydd ar lawr y farchnad.

“Mae nhw’n trial rhoi lle i’r bwyd llawer yn fwy na beth ydyn nhw i stondinau sydd wedi bod yma yn hir ac sy’n hynod brysur ac sy’n denu pobl i’r farchnad, sydd yn llawer mwy prysur ac sy’n creu gwasanaeth i bobl,” meddai Jules Yates, perchennog stondin On Time.

“Felly maen nhw’n dangos bias i’r bwyd”

Mae cwmni'r cigydd Alan Griffiths wedi bod yn y farchnad ers 54 mlynedd.

“Maen nhw'n edrych yn dda iawn ar y lluniau. Os ydyn nhw'n dod oddi arnyn nhw, byddan nhw'n dda iawn a bydd yn dda i'r farchnad.

"Yr hyn nad ydym wir eisiau ei wneud gormod yw ei wneud yn llwyr i gwrt bwyd ac nid marchnad lle mae llawer o wahanol fathau o grefftau."

Fe gafodd Marchnad Casnewydd ei hadnewyddu ym mis Mawrth 2022 gyda phwyslais ar stondinau bwyd.

Mae Lowri Haf Cooke, awdur a cholofnydd bwyd, yn rhybuddio yn erbyn dilyn yr un patrwm a’r farchnad honno.

“Dwi’n llawn chwilfrydedd, a dwi’n llawn amheuon hefyd. Hynny ydy bo nhw ddim yn creu gormod o le i’r hipsters a’u harian mawr a bo nhw’n prisio pobl gyffredin allan o’r farchnad.

“Da ni ddim isho be sy di digwydd ym Marchnad Casnewydd ble mae pobl leol ddim yn teimlo nid dyna’r lle iddyn nhw.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.