Diystyru tri o’r ymchwiliad i ddiflaniad Frankie Morris
Mae’r tri pherson a gafodd eu rhyddhau dan ymchwiliad mewn cysylltiad â diflaniad Frantisek “Frankie” Morris wedi eu diystyru o ymholiadau’r heddlu.
Mae'r dyn ifanc 18 oed o Landegfan ar Ynys Môn wedi bod ar goll ers pedair wythnos.
Cafodd ei weld ddiwethaf ger y Vaynol Arms, Pentir am 13:12 ar ddydd Sul, Mai 2.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Lee Boycott: “Mae hi bellach yn bedair wythnos ers i Frankie gael ei weld ddiwethaf.
“Mae ei deulu yn bryderus iawn yn ddealladwy a dwi’n parhau i apelio i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth o gwbl i siarad â ni".
"Efallai mai dyma fydd y darn rydym yn chwilio amdano, gwnewch yr alwad honno ar gyfer Frankie a’i deulu os gwelwch yn dda”, ychwanegodd.