20 o bobl wedi eu harestio yn dilyn yr anhrefn yn Nhrelái
Mae 20 o bobl wedi cael eu harestio bellach yn dilyn yr anhrefn yn Nhrelái fis diwethaf.
Dywedodd Heddlu De Cymru, sydd yn parhau i ymchwilio i'r anrhefn ddaeth yn dilyn marwolaeth dau lanc ifanc lleol, bod 17 dyn a 3 menyw wedi cael eu harestio.
Mae eu hoedrannau'n amrywio o 14 i 36 oed ac maen nhw wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi terfysg ac wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ceri Hughes ei bod yn disgwyl i fwy gael eu harestio ac mae wedi diolch i'r cyhoedd sydd wedi darparu gwybodaeth i'r llu.
Yn ystod yr anhrefn fe gafodd ceir eu rhoi ar dân, fe gafodd tân gwyllt ei danio tuag at yr heddlu ac fe gafodd cerbydau'r heddlu eu difrodi.
Fe ddechreuodd yr anhrefn yn dilyn marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.
Mae'r Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu wedi lansio ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad.