Newyddion S4C

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw’r ‘diwrnod allan gorau am ddim yn y DU’

03/06/2023
S4C

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw’r ‘diwrnod allan gorau am ddim yn y DU’, yn ôl arolwg.

Yr atyniad rhad ac am ddim sydd â’r sgôr uchaf yw Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a gafodd sgôr cwsmer o 94% mewn arolwg o bron i 7,000 o bobl yn ôl grŵp defnyddwyr Which?

Mae’r amgueddfa awyr agored yn cynnig “cipolwg hynod ddiddorol ar hanes” ac mae’n cynnwys 40 o adeiladau wedi’u hail-greu gan gynnwys efail weithiol, ysgol, capel a Sefydliad y Gweithwyr, tra bod arddangosion ymarferol yn cynnwys arddangosiadau o waith gof, crochenwaith a gwehyddu.

Dywedodd y golygydd teithio, Rory Boland: “Wrth i’r argyfwng costau byw barhau i fod yn straen ar gyllidebau cartrefi, ni fu erioed yn bwysicach dod o hyd i ddiwrnodau allan rhad neu am ddim.

“Yn ffodus mae gan y DU nifer o amgueddfeydd, orielau ac atyniadau eraill gwych sy'n cynnig mynediad am ddim ac oriau o hwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.