Angen creu 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol' er mwyn diogelu’r Gymraeg
Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn nodi y dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn yr ymdrech i geisio diogelu dyfodol yr iaith.
Mae’r Comisiwn, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau cyntaf ddydd Iau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canfyddiadau cychwynnol grŵp o arbenigwyr ar ddiogelu dyfodol cymunedau Cymraeg.
Mae’r adroddiad yn cynnig dynodi rhannau o Gymru yn ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’ lle gallai fod angen ymyrraeth er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Byddai hyn yn ei gwneud yn bosibl amrywio polisi cyhoeddus i gydnabod anghenion gwahanol rannau o Gymru medd y Comisiwn.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi: “Rydym yn deall nad oes diffiniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol ar gael ar hyn o bryd, er bod gan awdurdodau y rhyddid i ddiffinio ardaloeddo’r fath yn ôl eu dymuniad.
"Ond mae hyn yn gallu arwain at anghysondebau a methiant i weld fod rhai ardaloedd yn ieithyddol sensitif, ble y dylen nhw fod wedi cael eu cydnabod felly, neu vice versa.
“Mae’r Comisiwn o blaid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol er mwyn diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hynny. Heb ymyrraeth o’r fath, y tebygolrwydd yw mai parhau i ddirywio a wna’r Gymraeg yn eichadarnleoedd.”
'Hollbwysig'
Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn trafod y canfyddiadau gyda Chadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks, ac yn clywed safbwyntiau pobl ifanc ddydd Iau mewn sesiwn holi ac ateb yn Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Jeremy Miles: “Dw i’n croesawu canfyddiadau adroddiad y Comisiwn heddiw. Mae’n hollbwysig bod ein cymunedau yn gryf ac yn cael eu diogelu fel y gall y Gymraeg ffynnu.
“Mae’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf. Fe welon ni hynny yng nghanlyniadau’r cyfrifiad llynedd, ac mae papur y Comisiwn yn adlewyrchu hynny.
“Mae’r papur yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar y cymunedau Cymraeg eu hunain ynghylch eu hanghenion, a dyna pam dw i wedi dechrau cyfres o ymweliadau, er mwyn clywed pobl yn sôn am eu profiadau.”
Dywedodd Dr Simon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: “Mae’r Comisiwn wedi gwrando’n ofalus ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud. Ein canfyddiad cyntaf yw bod angen cymorth pellach i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd economaidd-gymdeithasol, er enghraifft, ym meysydd tai, cynllunio, datblygu cymunedol yn ogystal ag addysg.
“Fe ellid cyflawni hyn drwy ganiatáu i bolisïau sy’n effeithio ar y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru.
"Er mwyn gwneud hyn, mae’r Comisiwn o’r farn y dylid dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’, ac mae ein Papur Safbwynt yn trafod sut y gellid cyflawni hynny."
'Pryder'
Wrth ymateb i gyhoeddiad papur safbwynt y Comisiwn Cymunedau Cymraeg dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith bod "llawer o argymhellion i'w croesawu yn yr adroddiad".
"Fodd bynnag, mae pryderon gennym am y dull a ddefnyddir i ddiffinio ardaloedd penodol," meddai.
"Mae peryglon posibl i rannu Cymru i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a gweddill Cymru. Gall rhai sefydliadau deimlo nad yw'r Gymraeg o bwys yn y rhan fwyaf o'r wlad, gallai ganiatáu diffyg gweithredu mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn dal yn weddol gryf ond na fyddai'n cael eu hystyried yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, a gallai arwain at wthio datblygiadau niweidiol i ardaloedd sydd ddim yn cael eu hystyried i fod ag arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, yn hytrach nag atal fath datblygiadau.
"Yn lle hynny rydym ni'n argymell rhoi pob ardal ar daith i fod yn gymuned Gymraeg dros amser a chymhelliant i gynghorau symud i fyny. Mae'r comisiwn yn gosod yr opsiwn o ddwy haen ond nid yw hyn yn ddigonol i'r amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru. Yn ogystal, dylai'r haenau fynd tu hwnt i gynllunio, ac edrych ar ymatebion polisi eang i Gymreigio pob cymuned dros amser."
'Sylfaen'
Dywedodd grwp ymgyrchu Hawl i Fyw Adra eu bod nhw'n croesawu'r adroddiad.
"Mae Hawl i Fyw Adra yn cefnogi’r syniad o sefydlu Ardaloedd o Arwyddocad Ieithyddol Dwysedd Uwch," meddai Catrin Roberts o'r mudiad.
"Mae'n hen bryd ac yn dyngedfennol bwysig i roi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd ymhle mae hi’n iaith bob dydd, yn iaith y stryd.
"Heb wneud hynny byddwn yn gwneud cam mawr a’n hiaith ac bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbwl ansicr.
"Heb amheuaeth, byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn rhoi sylfaen gadarn at gadw’n hiaith yn hyfyw yn ein cymunedau drwy alluogi ymyrraethau pellgyrhaeddol mewn sawl maes - o addysg i faes tai. Bydd y dynodiadau yno’i hunan yn gam arwyddocaol at sicrhau bod pobl leol yn gallu byw adra a byw’n Gymraeg."