
Gwilym Morgan yn ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2023
Gwilym Morgan o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.
Seb Landais o Ddinbych y Pysgod, Sir Benfro yw enillydd Medal Bobi Jones.
Mae Medal Bobi Jones yn fedal gymharol newydd i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd, a gafodd ei chyflwyno gyntaf yn 2019.
Mae’r fedal yma yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones fel ei gilydd yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Tasgau
Mae’r ddau yn ennill eu medalau ar ôl rownd derfynol, yn llawn tasgau amrywiol, ym mis Ebrill 2023 yn un o wersylloedd yr Urdd.
Daw enillydd Medal y Dysgwyr, Gwilym Morgan, o Gaerdydd ac mae yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf.
Dechreuodd Gwilym ddysgu Cymraeg yn yr ysgol fel rhan o’i waith Lefel-A ond mae hefyd wedi ei ysbrydoli gan ei fam a ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015.
Dywedodd Gwilym: “Penderfynais i ddysgu Cymraeg achos dw i’n caru'r iaith, credaf ei fod hi’n bwysig iawn i barhau ein hiaith, mae’n iaith o’n gwlad, mae’n rhan o’n diwylliant ac un rhan allweddol o bwy ydw i.
“Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg yn agos at bob dydd, yn ysgol lle dwi’n yr “Pennaeth yr iaith Gymraeg a diwylliant Gymru” am fy “tŷ”. Yn ddiweddar, dwi wedi ymuno’r Urdd i gael mwy o gyfleoedd.
“Es i ar gwrs swogio yng Nglan-llyn, â bob wythnos dw i’n rhedeg “Clwb Siarad” am y disgyblion yn yr ysgol eto. Hefyd, es i i’r Fforwm CfTi (Menter Iaith, Urdd a Cardiff Youth Services) i gael llais ar weithgareddau am bobl ifanc.”
Daisy Haikala o Lanfaes ger Aberhonddu oedd yn ail yn y gystadluaeth a Niki Scherer o Fangor yn drydydd.

Enillydd Medal Bobi Jones, Seb Landais yw’r unig un yn ei deulu sydd yn siarad Cymraeg, ond roedd ei hen-hen fam-gu a hen-hen dad-cu yn arfer ei siarad. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein drwy ddefnyddio Duolingo, ac mae’n mwynhau siarad yr iaith bob cyfle phosib.
Dywedodd: “Dechreuais i ddysgu Cymraeg achos Cymro dw i a dw i eisiau mynd drwy Cymru a siarad gyda phobl yn Gymraeg. Pryd-bynnag dw i gyda phobl Cymraeg, dw i eisiau siarad gyda nhw yn Gymraeg hefyd.”
Y beirniaid eleni oedd Gwyneth Price a Rhodri Siôn.
Mae Medal y Dysgwyr wedi ei rhoi gan Gyngor Manordeilo a Salem, a Menter Dinefwr sydd wedi rhoi Medal Bobi Jones. Cafodd y seremoni ei noddi eto eleni gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.