Newyddion S4C

'Digon yw digon': Mam Jack Lis yn galw am newid cyfraith cŵn peryglus

30/05/2023
Lis

Mae mam bachgen 10 oed fu farw ar ôl i gi ymosod arno wedi galw am newid yn y gyfraith, gan ddweud mai “digon yw digon”.

Mae Emma Whitfield, 32, yn galw am sefydlu “Gyfraith Jack Lis”, wedi’i enwi ar ôl ei mab a fu farw ym mis Tachwedd 2021 ym Mhentwyn, Penyrheol, ger Caerffili, ar ôl dioddef ymosodiad gan gi Bully XL – brîd o gi sydd wedi ei ddatblygu ar gyfer ei gryfder.

Dywedodd wrth y Daily Mirror, sy’n cefnogi’r ymgyrch dros newid y gyfraith: “Mae gen i atgofion ofnadwy o hyd. Rwy'n dal i weld yr anifail a'i ddannedd. Rwy'n clywed y cyfarth.

“Rydych chi'n ei ail-fyw sawl gwaith y dydd - mae'n artaith.

“Rwy’n dal i’w weld yn anghredadwy. Yn eistedd ar y soffa neu ar y ffordd adref, mae'n eich taro eto.”

Cafodd perchennog y ci, Brandon Hayden, oedd yn 19 ar y pryd, ei ddedfrydu ym Mehefin 2022 i ychydig dros bedair blynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc a chafodd Amy Salter, oedd yn 29 ar y pryd, ei charcharu am dair blynedd ar ôl iddyn nhw bledio'n euog i fod yn gyfrifol am fod allan o reolaeth.

Ymosodiadau

Mae 15 o bobl eraill wedi marw mewn ymosodiadau gan gŵn yn y 18 mis ers marwolaeth Jack, gan gynnwys dynes 83 oed yng Nghaerffili, tra bu bron i 22,000 o achosion o anafiadau gan gŵn allan o reolaeth yn 2022.

Dywedodd mam Jack: “Digon yw digon. Mae'n rhaid i hyn stopio.

“Mae’n syfrdanol sut mae’n dal i ddigwydd. Ni ddylai byth fod wedi digwydd i Jack ond pam nad oes neb wedi dysgu o hyn?

“Mae pobol ddiniwed yn marw. Mae angen i’r Llywodraeth weithredu nawr. Mae allan o reolaeth ac mae yna bobl yn colli eu plant oherwydd hyn. Rwyf am atal hyn rhag digwydd.”

Dywedodd fod rhai mathau o gŵn wedi dod yn “symbolau statws” a dywedodd nad oes angen plismona pob bridiwr neu berchennog o dan ddeddfwriaeth newydd.

“I mi, nid yw’n wahanol i gael arf angheuol,” meddai.

“Fy mhroblem yw gyda bridwyr iard gefn nad oes ots ganddynt ble mae’r cŵn yn mynd. Does dim rheswm pam fod angen i gi werthu am £10,000 i fynd i gartref teuluol.”

Galwodd hefyd am ddedfrydau llymach gyda Salter o bosib yn cael ei ryddhau o'r carchar cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd pennaeth anifeiliaid anwes yr RSPCA, Dr Samantha Gaines: “Mae’r Ddeddf Cŵn Peryglus wedi methu ag amddiffyn y cyhoedd rhag y risg o frathiadau, rydyn ni eisiau agwedd newydd.

“Mae hefyd yn hanfodol bod mesurau ar gael i atal a chosbi perchnogion cŵn y mae eu hymddygiad yn beryglus.”

Nid yw’r Bwli XL yn cael ei gydnabod fel brîd swyddogol gan y Kennel Club.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.