Drakeford yn gwrthod gadael cefnogwyr i fynychu gêm yng Nghaernarfon

Llun: Sion Evans
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod caniatáu gadael i gefnogwyr fynychu gêm dyngedfennol rhwng Caernarfon a'r Drenewydd ddydd Sadwrn.
Fe fydd Caernarfon yn herio'r Drenewydd yn yr Oval ddydd Sadwrn 29 Mai yn rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Cymru Premier, gyda'r enillydd yn sicrhau lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.
Mae cefnogwyr a rhai gwleidyddion wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu nifer cyfyngedig o gefnogwyr i fynychu'r gêm.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n "amhosib" trefnu arbrawf digwyddiad torfol ar fyr rybudd, yn ôl North Wales Live.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Siôn Evans