Menyw o Aberteifi wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw menyw fu farw mewn gwrthdrawiad ger Tanygroes, Ceredigion fore dydd Iau.
Roedd Nicola Jennings yn 50 oed ac yn dod o Aberteifi. Cafodd unigolyn arall eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A487 tua 07.15.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad rhwng car Mini Countryman gwyrdd a Toyota gwyn.
"Os ydych chi wedi gweld beth ddigwyddodd, neu yn yr ardal o gwmpas yr amser hwn, neu os oes gennych luniau dashcam o'r gwrthdrawiad neu cyn hynny, cysylltwch â ni.
"Gallwch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys naill ai ar-lein yn bit.ly/DPPContactOnline, trwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu trwy ffonio 101."
Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau.