Mwy o heddlu ar strydoedd Gwynedd ac Ynys Môn ar ôl tanau bwriadol ym Mangor

27/05/2023
Tan bwriadol

Mae’r heddlu wedi dweud y bydd mwy o swyddogion ar strydoedd Gwynedd ac Ynys Môn ar ôl tanau bwriadol ym Mangor yr wythnos hon.

Y digwyddiad cyntaf oedd tân eithin bwriadol gyda'r nos ar Fai 23 yn ardal Pen y Bryn ym Mangor.

Yna cafodd adeilad ei fandaleiddio gyda difrod tân sylweddol ar Ffordd Caergybi, Bangor, ar Fai 24ain.

“Daw’r digwyddiadau ar ôl adroddiadau pellach o losgi bwriadol ar draws Gwynedd a Môn yn ystod y mis diwethaf,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Bydd swyddogion yn patrolio ardaloedd ar draws Gwynedd a Môn i atal tanau bwriadol pellach ac i addysgu pobl ifanc am beryglon eu cynnal nhw.

“Mae arwyddion hefyd yn cael eu gosod yn yr ardaloedd hyn i rybuddio ac apelio am unrhyw wybodaeth am gynnau tanau yn fwriadol.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu am y troseddau hyn ddyfynnu cyfeirnod 2300043998 a 23000443024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.