Iolo Williams ddim am gyflwyno Springwatch oherwydd problemau iechyd

Ni fydd Iolo Williams yn cyflwyno rhaglen Springwatch eleni oherwydd problemau â’i iechyd.
Mi oedd y cyflwynydd natur o Drefaldwyn i fod i ymuno gyda Chris Packham, Michaela Strachan a Megan McCubbin i gyflwyno’r gyfres flynyddol sydd yn canolbwyntio ar fywyd gwyllt.
Ond ni fydd yn cymryd rhan ar ôl derbyn triniaeth i gael stent ym mis Ebrill.
Dywedodd bod clot gwaed wedi achosi embolism yr wythnos hon, gan achosi rhwystr mewn pibell waed.
Mewn trydariad i’w ddilynwyr, fe gadarnhaodd Mr Williams na fyddai'n cyflwyno'r gyfres eleni o ganlyniad.
Unfortunately I can’t co-present @BBCSpringwatch this year. I had a stent inserted in April, which released a clot, that, this week, caused an embolysm! My demise has been greatly exaggerated; thanks to brilliant friends, wonderful family & the excellent @NHS. Go Megan & team SW! pic.twitter.com/cM3DhI9PDE
— Iolo Williams (@IoloWilliams2) May 26, 2023
Dywedodd Mr Williams: “Yn anffodus, ni allaf gyd-gyflwyno Springwatch eleni. Cefais stent ym mis Ebrill, sydd wedi rhyddhau clot, sydd wedi achosi emolism yr wythnos yma!
“Ond dydw i ddim yn eich gadael chi; diolch i ffrindiau gwych, teulu rhyfeddol a’r Gwasanaeth Iechyd rhagorol.
"Pob lwc i Meg a’r tîm Springwatch.”