Dau wedi eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda beic modur

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i fachgen 17 oed a dynes 48 oed gael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda beic modur.
Mewn datganiad dywedodd y llu fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar y ffordd rhwng Tredegar ac Abertyswg, tua 15.45 ddydd Iau.
"Roedd swyddogion yn bresennol, ynghyd â phersonél o Wasanaethau Ambiwlans Cymru," meddai llefarydd.
"Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â beic modur a beic.
"Fe wnaeth gyrrwr y beic modur adael y lleoliad yn dilyn y gwrthdrawiad. Credir bod y beic modur yn lliw tywyll gyda darnau melyn ac oren.
"Cafodd bachgen 17 oed a dynes 48 oed eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr gyda lluniau camera dashfwrdd, a oedd yn defnyddio’r ffordd rhwng Tredegar ac Abertyswg, rhwng 15:00 a 16:00 i gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2300170711."