Cynghori pobl yn ardal Llandudno i gau eu ffenestri o achos tân mynydd

Mae pobl yn ardal Llandudno yng Nghonwy yn cael eu cynghori i gau eu ffenestri a'u drysau yn dilyn tân mynydd yn yr ardal.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn delio â digwyddiad yn ardal Mynydd Cwm yn Llandudno.
Ychwanegodd llefarydd fod hyn yn "achosi mwg yn yr ardal".
Mae pump o gerbydau tân yn y lleoliad ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 19:37 nos Iau ond bu'n rhaid iddynt ddychwelyd yn ddiweddarach ychydig cyn hanner nos.