Dyn 85 oed o Brydain wedi cael ei saethu yn Sudan

Mae dyn 85 oed o Brydain wedi cael ei saethu yn Sudan.
Mae brwydro wedi dwysáu rhwng y fyddin a grŵp parafilwrol yr RSF, y Lluoedd Cefnogaeth Gyflym.
Dywedodd teulu Abdalla Sholgami ei fod yn byw ger Llysgenhadaeth y DU ym mhrifddinas Sudan, Khartoum, ac ei fod wedi cael ei saethu.
Bu farw ei wraig, Alaweya Rishwan, o newyn ar ôl iddi gael ei gadael yn y wlad.
Ychwanegodd y teulu fod Mr a Mrs Sholgami wedi gofyn am help ychydig ddyddiau cyn i'r gwrthdaro yn Sudan ddechrau, ond eu bod nhw wedi cael cyfarwyddyd i adael ardal y brwydro er mwyn gallu hedfan allan o'r wlad.
Dywedodd y teulu hefyd eu bod wedi cysylltu gyda llinell gymorth Swyddfa Dramor y DU ac nad yw'r llywodraeth wedi gwneud unrhyw beth i'w cefnogi ers yr hediad olaf allan o'r wlad yn gynharach ym mis Mai.
Dywedodd wyres Mr Sholgami, Azhaar, bod y llysgenhadaeth "bedwar cam ar y mwyaf" i ffwrdd o gartref eu nain a'i thaid.
Yn ôl y teulu, cafodd Mr Sholgami ei orfodi i adael ei gartref wedi iddo gael ei saethu dair gwaith, a llwyddodd i ddianc i'r Aifft.
Cafodd ei wraig ei gadael yn y tŷ a gafodd ei amgylchynu gan saethwyr, lle bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd y Swyddfa Dramor fod yr achos yn "hynod o drist.
"Mae'r DU yn chwarae rhan blaenllaw yn yr ymdrechion diplomyddol i sicrhau heddwch yn Sudan."