Galw ar y cyhoedd i ymweld ag Eryri 'yn gyfrifol a chynaladwy' dros wyliau hanner tymor

Gyda penwythnos gŵyl y banc a gwyliau hanner tymor yn agoshau mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Traffic Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i ymweld ag Eryri "yn gyfrifol a chynaladwy."
Daw'r alwad yn dilyn trafferthion ar ffyrdd yr ardal yn ddiweddar gyda cherbydau oedd wedi parcio'n anghyfrifol wedi eu tywys oddi yno.
Dywedodd y cyrff ei bod yn "hanfodol bod ymwelwyr yn mabwysiadu arferion cynaladwy" ac yn "dilyn y canllawiau sy’n cael eu darparu."
Dywedodd Gethin Jones, Prif Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae parcio anghyfrifol yn gallu peryglu cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill ond yn ogystal a hyn yn effeithio ar fynediad cerbydau y gwasnaethau brys.
"Rydym wedi tystio enghreifftiau blaenorol o gerddwyr a phlant bychain yn cael eu gorfodi i gerdded ar y ffordd mewn ardaloedd megis Llyn Ogwen a Phen-y-Pass oherwydd gweithredoedd hunanol y lleiafrif – mae hyn yn hollol annerbyniol. Yn ddiweddar bu’n rhaid i ni gau yr A5 oherwydd perygl i ddefnyddwyr ffordd.
"Mi fyddwn yn parhau i gydweithio gyda’n partneriaid i leihau’r perygl i holl ddefnyddwyr ffyrdd a mi fydd unrhywun sy’n parcio ar glirffordd neu’n achosi rhwystr o bosib yn cael eu cerbyd wedi eu symud ac yn gorfod talu’r costau. Cymerwch sylw o’r rhybudd.”
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Trwy gyhoeddi cyfres o ganllawiau ymweld newydd ar ein gwefan rydym yn rhoi pŵer i ymwelwyr brofi Eryri mewn ffordd gynaladwy, darganfod mwy o’r ardal heb gar a gwneud y dewis gorau o pa lwybr sydd fwyaf addas iddyn nhw ar gyfer Yr Wyddfa.
Mae’r canllawiau yma yn Adnoddau amhrisiadwy sy’n darparu mewnolwg a chyngor ymarferol fydd yn galluogi unigolion wneud penderfyniadau gwybodus, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a sicrhau ymweliad cofiadwy a chyfrifol i’n Parc Cenedlaethol”.
Yn ystod cyfnodau brig mae'r awdurdodau yn annog ymwelwyr i'r Parc Cenedlaethol i ddefnyddio cyfleusterau Parcio a Theithio neu meysydd parcio penodol os yn cyrraedd mewn car.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
“Ein neges i bobl wrth feddwl ymlaen i gyfnod y gwyliau ydi i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau ymlaen llaw. Defnyddiwch y meysydd parcio priodol a gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.
"Bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg gan gysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch Yr Wyddfa ac mae gwasanaethau eraill fel bysiau trydan cymunedol hefyd yn cynnig gwasanaethau yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi pobl i barcio mewn meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yn lleol.
"Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid eraill i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff yr holl bartneriaid yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gofio hyn wrth ymweld ag i drin ein staff gyda pharch a charedigrwydd.
Rydym am weld pawb yn mwynhau’r ardal yn ddiogel. Ond fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, os bydd modurwyr yn parcio yn anghyfreithlon byddwn yn cymryd camau priodol er diogelwch y cyhoedd.”
Wrth ddisgwyl nifer uchel o ymwelwyr dros y gwyliau, mae’r sefydliadau yn pwysleisio’r angen am gynllun wrth gefn. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddarganfod ardaloedd amgen sy’n cynnig cyfloedd hamdden sydd yr un mor drawiadol.