Arestio dyn wedi i gar daro yn erbyn giatiau Downing Street

Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o ddifrod troseddol a gyrru’n beryglus ar ôl i gerbyd gael ei yrru i mewn i gatiau Downing Street yn Llundain.
Fe darodd y car Kia arian i mewn i’r gatiau tua 16.20 ddydd Iau, meddai Heddlu'r Met mewn datganiad.
Roedd delweddau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos y car wedi'i amgylchynu gan gerbydau'r heddlu yn dilyn y digwyddiad.
Ychwanegodd y llu nad oes unrhyw un wedi cael ei anafu.
Y gred yw nad yw heddlu gwrthderfysgaeth yn rhan o'r ymchwiliad ar hyn o bryd.
Dywedodd tyst i'r digwyddiad, Simon Parry, 44 oed, iddo glywed “glec”.
“Clywais glec ac edrych i fyny a gweld llwyth o heddlu gyda gynnau Taser yn gweiddi ar y dyn,” meddai.
“Daeth llawer o gerbydau’r heddlu’n gyflym iawn ac roedden nhw’n gyflym iawn i wagio’r ardal.”
Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd Heddlu'r Met: “Am tua 16:20 o’r gloch bu car mewn gwrthdrawiad â gatiau Downing Street ar Whitehall.
“Arestiodd swyddogion arfog ddyn yn y fan a’r lle ar amheuaeth o ddifrod troseddol a gyrru’n beryglus.
“Does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau. Mae ymholiadau’n parhau.”
Llun: PA