Streiciau i effeithio ar gyflenwadau o Coca Cola dros yr haf

Bydd cyfres o streiciau yn cael effaith ar rai o hoff ddiodydd ysgafn pobl yn y DU dros yr haf.
Daw hyn yn sgil anghydfod gweithwyr sydd yn gweithio i gwmni Coca Cola Europacific Partners (CCEP) sydd yn honni nad yw'r cwmni yn talu cyflog teg sy'n cydfynd gyda'r cynnydd mewn chwyddiant.
Mae cynnyrch y cwmni yn cynnwys Coca Cola, Diet Coke, Fanta, Sprite a Dr Pepper.
Mae'r gweithwyr yn bwriadu mynd ar streic am 14 diwrnod o 8 Mehefin i 22 Mehefin.
Mae cannoedd o weithwyr yn ffatri diodydd ysgafn fwyaf Ewrop yn Wakefield wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol yn sgil yr anghydfod dros gyflogau.
Mae'r ffatri yn cynhyrchu hyd at 360,000 o ganiau a 132,000 o boteli yr awr.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Sharon Graham: "Mae Coca Cola Europacific Partners yn gwneud enillion o filiynau ond mae'n gwneud toriadau cyflog i'r gweithwyr sydd yn gwneud yr union enillion yma."
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn credu fod y codiadau cyflog yr ydym ni yn eu cynnig yn gystadleuol iawn o fewn y farchnad.
"Rydym hefyd yn cynnig manteision ychwanegol sylweddol i'n cyd-weithwyr, ac i gyd efo'i gilydd, mae hwn yn becyn cyfartalog o £46,900 i gydweithiwr yn Wakefield."