Ystyried gwahardd cŵn mewn rhai mannau cyhoeddus yng Ngwent
Mae posibilrwydd y gallai cŵn gael eu gwahardd o sawl parc a mannau cyhoeddus mewn ardaloedd o fewn Gwent.
Fe allai'r rheolau newydd, gafodd eu trafod gan Gyngor Sir Fynwy ddydd Iau, atal pobl rhag mynd a’u cŵn i gaeau chwaraeon, meysydd chwarae plant a rhai ysgolion hefyd.
Bydd cynnig hefyd i orfodi perchnogion cŵn i gadw eu hanifeiliaid ar dennyn sydd ddim mwy na dau fetr o hyd mewn rhai ardaloedd yn Sir Fynwy.
Mae disgwyl i’r cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau newydd sy’n dod fel rhan o fesur Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus lleol.
Ond mae pryder eisoes y byddai’r rheol yn tarfu ar fywydau unigolion sydd eisiau mwynhau amser yn yr awyr agored gyda’u teulu cyfan.
Yn ystod y cyfarfod gofynnodd y cynghorydd Jackie Strong: “Sut byddai’r gorchymyn yma yn effeithio ar deuluoedd sydd eisiau mynd i wylio pobl ifanc yn chwarae pêl-droed gydag anifeiliaid anwes ar dennyn?
“Mae nifer o berchnogion cŵn yn mynd i wylio’r criced dros y penwythnos wrth fynd a’u cŵn am dro – a fydden nhw’n gallu parhau i fynd a’r ci am dro a gwylio’r criced?”
‘Synnwyr cyffredin’
Petai i’r cynlluniau cael eu cymeradwyo bydd tua 350 o arwyddion newydd yn cael eu creu, ar gost o hyd at £30,000, i nodi’r rheolau newydd.
Byddai aelodau o’r cyhoedd sy’n gwrthwynebu’r gorchymyn yn wynebu dirwy o £100 yn y fan a’r lle neu gosb o hyd at £1,000 – a hynny am fynd a’u ci am dro yn yr ardaloedd gwaharddedig.
Dywedodd Dave Jones, pennaeth diogelu’r cyhoedd ar ran y cyngor, y byddai rhaid defnyddio “synnwyr cyffredin” wrth ystyried y cynlluniau.
Bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau cael ei gynnal o ganol mis Mehefin hyd at ganol Mis Awst.
Llun: Bob D./Creative Commons.