Sam Smith yn canslo cyngherddau o achos 'anaf i'r llais'

Mae Sam Smith wedi dweud eu bod yn canslo eu cyngherddau yn Glasgow a Birmingham oherwydd “anaf i gordiau lleisiol”.
Gorfodwyd y cerddor 31 oed, sy'n aneuaidd, i ddod â'u sioe ym Manceinion i ben ddydd Mercher ar ôl y bedwaredd gân.
Roedd y daith i fod i barhau yn arena Ovo Hydro Glasgow ddydd Iau a Resorts World Arena yn Birmingham ddydd Sadwrn.
Roedd y dyddiadau wedi eu canslo unwaith yn barod a hynny ym mis Ebrill oherwydd salwch.
Mewn neges ar gyfrif Instagram Sam Smith ddydd Iau, dywedodd datganiad: “Oherwydd problemau lleisiol yn ystod perfformiad Manceinion neithiwr, yn anffodus byddwn yn canslo sioeau Sam Smith Birmingham a Glasgow sydd wedi’u haildrefnu.”
Ychwanegodd y bydd ad-daliadau’n cael eu rhoi ar gyfer y tri dyddiad a dywedodd llefarydd: “Mae meddygon wedi cynghori bod rhaid Sam orffwys y llais yn llwyr oherwydd anaf i gordiau'r llais.
“Mae Sam wedi torri eu calon o fod wedi gorfod canslo’r sioeau hyn ond mae meddygon wedi dweud wrthyn nhw y byddan nhw’n gwneud niwed parhaol i’w llais os ydyn nhw’n dal i ganu.”