'Difrod sylweddol' i hen orsaf bŵer o ganlyniad i danau bwriadol

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi bod yn ymateb i danau bwriadol a achosodd ddifrod sylweddol i Orsaf Bŵer Bae Baglan.
Mae lluniau yn dangos difrod sylweddol i'r adeilad sydd bellach ddim yn cael ei ddefnyddio.
Gyda'r cynnydd yn y nifer o danau bwriadol yno, mae'r gwasanaeth wedi rhybuddio y gall y rhai sy'n cynnau'r tanau gael eu hanafu'n ddifrifol.
"Nid yn unig y mae’r rhai sy’n cynnau tanau’n fwriadol yn peryglu eu hunain, maen nhw hefyd yn peryglu bywydau diffoddwyr tân, yn enwedig mewn safleoedd mawr, cymhleth a pheryglus fel Gorsaf Bŵer Bae Baglan.
"Yn ogystal â’r peryglon arferol sy’n gysylltiedig â brwydro yn erbyn tanau, bu’n rhaid i griwiau GTACGC sydd wedi ymateb i’r digwyddiadau niferus yng Ngorsaf Bŵer Bae Baglan hefyd fod yn ymwybodol o beryglon eraill, fel symiau mawr o gemegau, ceblau trydanol yn hongian, strwythurau anniogel a mwy."
Ychwanegodd llefarydd fod tystiolaeth hefyd o geblau’n cael eu dwyn ac o dresmaswyr ar y safle.
Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru