Cerflunydd yn dylunio draig goch yn Sioe Flodau Chelsea 'mewn teyrnged i'r Brenin'

Mae cerflunydd wedi dylunio draig goch enfawr yn Sioe Flodau Chelsea mewn teyrnged i'r Brenin ar ôl iddo gael ei goroni.
Fe wnaeth James Doran-Webb, sydd yn wreiddiol o Ddyfnaint, ond bellach yn byw yn Cebu yn Y Philipinau, adeiladu draig goch saith-metr o uchder mewn teyrnged i Goroni'r Brenin.
Cafodd Mr Doran-Webb ei ysbrydoli gan fyd natur, ac mae ei waith diweddaraf, sef cerflun o ddraig yn pwyso ar goeden, yn pwyso chwe thunnell.
Dywedodd: "Ers i mi ddarganfod y goeden farw yn 2011, ac ar ôl cael caniatâd i'w chludo i fy ngweithdy, mae wedi bod yn brofiad anhygoel i adeiladu'r ddraig ac atgyfodi'r goeden fel y gallai'r cerflun bwyso arni.
"Mae dychwelyd i Sioe Flodau Chelsea wastad yn uchafbwynt ac mae'n gyffrous i weld fod pobl eraill yn cael gweld y ddraig hefyd."
Fe wnaeth Mr Doran-Webb greu ac adeiladu'r cerflun yn Y Philipinau cyn ei fod yn cael ei gludo drosodd i'r DU 45 diwrnod yn ddiweddarach ar gwch er mwyn ei arddangos yn Sioe Flodau Chelsea.
Bydd y cerflun yn cael ei arddangos yn y sioe rhwng 22 a 27 Mai.