Tina Turner wedi marw yn 83 oed

Mae'r gantores Tina Turner wedi marw yn 83 oed ar ol cyfnod o salwch.
Roedd hi wedi bod yn dioddef o ganser y coluddyn ers rhai blynyddoedd ac wedi cael trawsblaniad aren yn 2017.
Enillodd y seren roc, a gafodd ei geni fel Anna Mae Bullock yn Nutbush, Tennessee, 12 Gwobr Grammy ac mae ganddi seren ar y Hollywood Walk of Fame a St Louis Walk of Fame.
Cafodd Turner ei galw'n Frenhines Roc a Rol am ei chaneuon 'What's Love Got To Do With It', 'Private Dancer' a 'The Best'.
Gwerthodd dros 180 miliwn albwm ar draws y byd.
Yn ei hunangofiant, gyhoeddwyd ym 1986, adroddodd y gantores stori ddirdynnol o gam-drin, gan gynnwys torri ei thrwyn tra oedd yn briod ag Ike Turner rhwng 1962 a 1978.
Priododd Erwin Bach, y cynhyrchydd cerddoriaeth Almaeneg yn 2013 ac roedd wedi byw gydag ef ers 1994.
Llun: PA