Newyddion S4C

Heddlu yn dweud bod eu cerbyd 'hanner milltir i ffwrdd' o'r gwrthdrawiad angheuol yn Nhrelái

24/05/2023
Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon- Sky News

Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru wedi dweud nad oedd cerbyd heddlu ar y ffordd lle bu gwrthdrawiad angheuol yn Nhrelái nos Lun.

Mewn cynhadledd i'r wasg brynhawn Mercher dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Bacon bod fan heddlu yn dilyn y ddau fachgen a fu farw, ond doedd y cerbyd ddim ar Heol Snowden, lle digwyddodd y gwrthdrawiad.

Yn ôl yr heddlu, roedd y fan wedi wedi troi i Grand Avenue, yn hytrach na dilyn y bechgyn.

Dywedodd Ms Bacon: "Rwy'n ymwybodol o bryderon yn y gymuned yn ymwneud ag amserlen y digwyddiadau cyn y gwrthdrawiad angeuol.

"Felly, rydw i eisiau cadarnhau amserlen yr hyn ddigwyddodd.

Fe fydde ni wedi hoffi rhoi'r lefel yma o wybodaeth ddoe, ond mae'n ymchwiliad cymhleth, a roedd rhaid i ni fod yn sicr o'r ffeithiau yma cyn eu cadarnhau."

Dyma'r amserlen yn ôl yr heddlu:

17:59.40- CCTV yn dangos y beic yn teithio tuag at y cerbyd heddlu ar Heol Frank, cyn troi yn ol y ffordd arall.

18:00.52- Cerbyd yr heddlu yn dilyn y beic, ond heb oleuadau glas.

18:01.18- Mae cerbyd yr heddlu wrth gylchfan New Ely Church ac yn teithio trwy Heol Archer, Heol Stanway a Heol Howell.

18:02.31- Cerbyd yr heddlu yn troi i Grand Avenue.

18:02.17 – 18:02.41- Tua'r adeg y digwyddodd y gwrthdrawiad. Mae'r heddlu yn dweud bod eu cerbyd hanner milltir i ffwrdd ar Grand Avenue pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

18:06.59- Y cerbyd heddlu ar Heol Gorllewin Cowbridge pan mae'n cael gwybodaeth am y gwrthdrawiad. Swyddogion wedi troi'r goleuadau glas ymlaen a theithio i Ffordd Snowden.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Bacon bod yr heddlu wedi adfer 180 awr o ddeunydd fideo o gamerâu heddweision a bod disgwyl mwy o ddeunydd.

Ychwanegodd fod swyddogion yn edrych ar gannoedd o oriau o gamerâu CCTV a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymchwiliad

Mae'r IOPC, sydd yn ymchwilio i ymddygiad yr heddlu, wedi cadarnhau eu bod am yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar ôl i fideo ddangos cerbyd heddlu yn dilyn beic trydan ychydig cyn y digwyddiad.

Mae'r ddau fachgen bu farw bellach wedi eu henwi yn swyddogol fel Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16, a oedd yn ffrindiau gorau.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, fe ymgasglodd cannoedd o bobl yn yr ardal. Cafodd ceir eu rhoi ar dân, a chafodd tân gwyllt a nifer o bethau eraill eu taflu at yr heddlu.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad,a'r anhrefn ddigwyddodd yn ddiweddarach.

Llun: Sky News

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.