Mwy na 200 o swyddi newydd mewn ffatri bapur yn y gogledd
27/05/2021
Bydd ffatri gwneud papur newydd yn creu dros 200 o swyddi yn y gogledd.
Mae’r Daily Post yn adrodd fod cwmni o’r Eidal, ICT, wedi arwyddo cytundeb i ddatblygu safle newydd yng Nglannau Dyfrdwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu buddsoddiad o £5m ar gyfer y datblygiad.
Bydd y gwaith datblygu yn dechrau yn fuan yn 2022, gyda 229 o swyddi yn cael eu creu pan fydd y safle’n agor.
Mae ICT yn cynhyrchu papur ar gyfer gwmniau preifat, yn ogystal ag ar gyfer eu cwmni eu hunain, FOXY, ar gyfer y farchnad Wyddelig a Phrydeinig.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: AdamTasImages