Car a dau feiciwr ifanc mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i gar a dau feiciwr fod mewn gwrthdrawiad yng Nghwmbrân nos Fawrth.
Dywed yr heddlu bod gyrrwr y car wedi gadael yr ardal wedi'r ddamwain yn Heol Bryn Celyn. Mae nhw wedi apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad.
Aed a'r ddau feiciwr - bachgen 15 oed a merch 13 oed - i'r ysbyty gyda man anafiadau.
Cafodd Heddlu Gwent a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i Heol Bryn Celyn am tua 21:45 nos Fawrth.
Dywed yr heddlu bod y gyrrwr wedi gadael ardal y gwrthdrawiad gan fynd i gyfeiriad Maendy Way.
Dywedodd yr Arolygydd Shane Underwood o Ymgyrchoedd Arbenigol Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn diolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu gyda gwybodaeth. Mae ein hymoliadau’n parhau ac rydym yn dal i fod eisiau siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar Heol Bryn Celyn, neu’n agos ati, tua 9.45pm nos Fawrth 23 Mai, neu unrhyw un â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300168203.