Chwyddiant ar ei lefel isaf ers dros flwyddyn ond prisiau bwyd yn dal i godi

Mae chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers mis Mawrth 2022, yn ôl ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
8.7% oedd lefel chwyddiant ym mis Ebrill, sy'n llai na'r 10.1% a gafodd ei gofnodi ym mis Mawrth.
Dyma tro cyntaf i lefel chwyddiant gyrraedd ffigwr sengl ers mis Awst 2022.
Ond mae’r ffigwr yn parhau i fod yn uwch na'r disgwyl wedi i economegwyr ddarogan cwymp i 8.2% erbyn mis Ebrill.
Prisiau bwyd ar 'uchafbwynt'
Dywedodd Grant Fitzner, prif economegydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Fe gwympodd cyfradd chwyddiant yn sylweddol gan nad oedd y cynnydd mewn prisiau ynni yn debyg i'r llynedd, ond roedd cynnydd yng nghostau nwyddau fel ceir ail-law a sigaréts.
“Serch hynny, mae prisiau ar y cyfan yn parhau i fod yn llawer uwch nag oedden nhw’r adeg yma'r llynedd, gyda phrisiau bwyd yn agos i uchafbwynt hanesyddol,” meddai.
Yn ôl y ffigyrau, mae chwyddiant ar gyfer prisiau bwyd yn parhau’n uchel ar 19.3%, a hynny ond yn ostyngiad bychan o gymharu â 19.6% fis Mawrth.
Dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt: “Er ei bod yn bositif bod chwyddiant bellach o fewn ffigyrau sengl, mae prisiau bwyd yn dal i gynyddu’n rhy gyflym.”
Ychwanegodd y Canghellor Cysgodol, yr Aelod Seneddol Llafur, Rachel Reeves: “Tra bydd biliau yn dal i godi, bydd teuluoedd yn pryderu dros brisiau bwyd a chostau nwyddau hanfodol eraill.”
Llun: Dominic Lipinski/PA Wire.