Cynlluniau i gau ffatri Avara Foods yn y Fenni sy'n cyflogi 400

Mae cwmni Avara Foods wedi cyhoeddi cynnig i gau ei ffatri yn Y Fenni, Sir Fynwy yn yr hydref.
Mae tua 400 o swyddi yn y fantol yn y ffatri sy'n prosesu dofednod.
Dywedodd y cwmni ei bod wedi wynebu 'pwysau chwyddiant sylweddol mewn tanwydd' sydd wedi cynyddu prisiau a lleihau'r galw am dwrci wedi ei gynhyrchu yn y DU.
Ychwanegodd bod angen iddynt bellach gael "llai o gyfleusterau sydd â mwy o fuddsoddiad".
Dros y chwe mis diwethaf, mae'r cwmni wedi ystyried amryw o opsiynau i sicrhau ei fod yn gallu cystadlu yn effeithiol yn y farchnad yn y dyfodol, ac roedd y rhain yn cynnwys defnydd o'u ffatri yn Y Fenni.
Daeth y cwmni i'r casgliad bod angen cau'r ffatri.
Bydd Avara Foods yn trafod gyda'r gweithwyr yn y dyddiau i ddod, medd datganiad gan y cwmni.