Newyddion S4C

Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Nifer y nyrsys ar gynnydd yn y DU ond pryderon am y rhai sy'n gadael yn gynnar

NS4C 24/05/2023

Mae nifer y nyrsys sydd yn gweithio yn y DU wedi cynyddu i'w lefel uchaf ar record, yn ôl ffigurau newydd. 

Mae yna bellach 788,638 o nyrsys, bydwragedd a nyrsys cysylltiol wedi eu cofrestru i weithio yn y DU yn ôl y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Er y cynnydd, mae'r cyngor hefyd yn rhybuddio am y nifer sy'n gadael y proffesiwn yn gynnar. 

Fe wnaeth yr NMC gyfeirio at "ganfyddiadau pryderus" yn ei arolwg barn, sy'n awgrymu fod nifer yn penderfynu gadael y proffesiwn yn sgil blinder, pryderon am ansawdd gofal pobl, a phwysau gwaith. 

Dywedodd 52% wrth yr NMC eu bod wedi rhoi'r gorau i weithio yn "gynharach na'r bwriad" yn 2022. 

Mae'r cyngor yn cyhoeddi ei ffigurau yn flynyddol ar niferoedd nyrsys, bydwragedd a nyrsys cysylltiol sydd wedi eu cofrestru i weithio yn y DU. 

Mae ffigwr 2022/23 yn cynrychioli cynnydd o fwy na 30,000 o ffigwr 2021/22, gan olygu bod amcangyfrif o 1.2% o boblogaeth y DU bellach wedi eu cofrestru i weithio fel nyrs neu fydwraig yn ôl yr NMC. 

Dywedodd hefyd fod un ymhob pump o nyrsys, bydwragedd a nyrsys cysylltiol wedi cael eu haddysgu mewn gwledydd eraill ar hyd a lled y byd. 

Roedd 28% yn dod o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig. 

'Rhybuddion cryf'

Dywedodd prif weithredwr yr NMC, Andrea Sutcliffe: "Mewn cyfnod lle mae yna ofyn cynyddol am wasanaethau iechyd a gofal, mae'n galonogol fod ein cofrestr wedi cynyddu i'r lefel uchaf erioed yn sgil y cynnydd yn y nifer sy'n cael eu hyfforddi yma yn ogystal â'r cynnydd parhaus mewn recriwtio rhyngwladol.

"Er bod recriwtio yn parhau yn gryf, mae yna rybuddion cryf am bwysau yn y gweithle sydd yn golygu fod pobl yn gadael y proffesiwn - mae llawer yn gadael y gofrestr yn gynharach na'r bwriad yn sgil blinder, diffyg cefnogaeth gan gydweithwyr, pryderon am ansawdd gofal pobl a lefelau staffio."

Wrth ymateb i'r ffigurau, dywedodd prif weithredwr coleg Brenhinol y Nyrsys Pat Cullen fod "y ffigurau hyn yn cadarnhau ein pryderon am y methiant i gadw staff profiadol - mae miloedd o nyrsys yn gadael y proffesiwn yn sgil blinder, iechyd meddwl neu gorfforol, a phryderon am ansawdd gofal pobl."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.