Newyddion S4C

nikki allan

Carchar am oes i ddyn am lofruddio merch saith oed yn y 90au

NS4C 23/05/2023

Mae dyn a lofruddiodd ferch saith oed ym 1992 wedi cael ei garcharu am oes,a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 29 mlynedd o dan glo. 

Dywedodd erlynwyr fod gan y troseddwr rhyw, David Boyd, 55, 'bwrpas sinistr' pan hudodd Nikki Allan, i hen warws yn Sunderland ym mis Hydref 1992. 

Yn gynharach ym mis Mai, cafodd Boyd ei ddyfarnu'n euog ar ôl i'r rheithgor glywed ei fod wedi ymosod arni gyda bricsen a'i thrywanu yn ei brest 37 o weithiau cyn ei gadael i farw.

Cafodd George Heron ei gyhuddo yn wreiddiol o lofruddio'r ferch ifanc, ond fe'i gafwyd yn ddi-euog ar orchymyn y barnwr ym 1993. 

Mae mam Nikki, Sharon Henderson, 57, wedi brwydro i gael cyfiawnder i'w merch, ac wrth siarad yn Llys y Goron Newcastle ddydd Mawrth, dywedodd: "Dwi'n 57 oed ac wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn brwydro am gyfiawnder.

"Nid yw fy mywyd i na fy nheulu erioed wedi bod yr un peth ers i Nikki gael ei llofruddio."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.