Daran Hill yn pledio yn euog i bum achos yn ymwneud â lluniau anweddus o blant
Daran Hill yn pledio yn euog i bum achos yn ymwneud â lluniau anweddus o blant

Mae'r cyn lobïwr gwleidyddol Daran Hill wedi pledio yn euog i bum achos o wneud a dosbarthu delweddau anweddus o blant.
Plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ddosbarthu delweddau anweddus o blant ar rwydweithiau cymdeithasol Kik a WhatsApp, yn ogystal â thri chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant.
Cafodd y dyn 52 oed ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod ei fod yn aros mewn cyfeiriad yn ardal Abertawe.
Cafodd orchymyn i beidio â chael unrhyw gysylltiad â phlant o dan 18 oed ac i beidio â mynd ar y rhyngrwyd ar ddyfeisiadau nad oes modd i'r heddlu eu gwirio.
Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ar 6 Mehefin.