Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pont Britannia

23/05/2023
Safle'r gwrthdrawiad

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Pont Britannia ddydd Mawrth. 

Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru ei fod wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar yr A55 tua'r Dwyrain ger y bont ar Ynys Môn fore Mawrth. 

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod. 

Roedd rhan o’r A55 ger Pont Britannia ar gau am rai oriau fore dydd Mawrth ar ôl y gwrthdrawiad, ac fe ail agorodd amser cinio. 

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru am 05:30 fod disgwyl i'r ffordd aros ar gau "am gryn gyfnod".

"Osgowch yr ardal os yn bosibl," medden nhw. "Mae disgwyl oedi a bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio.”

Cafodd y traffig ei ddargyfeirio dros Bont y Borth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.