Newyddion S4C

Anhrefn Trelái: Dau fu farw mewn gwrthdrawiad wedi eu henwi'n lleol

23/05/2023

Anhrefn Trelái: Dau fu farw mewn gwrthdrawiad wedi eu henwi'n lleol

Mae'r ddau berson ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad yn Nhrelái yng Nghaerdydd nos Lun wedi cael eu henwi yn lleol fel Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.

Roedd "anhrefn mawr" yng Nghaerdydd dros nos wedi i'r ddau berson farw mewn gwrthdrawiad.

Mewn datganiad fore Mawrth dywedodd Heddlu De Cymru bod dau fachgen yn eu harddegau wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Trelái.  

Dywedodd yr heddlu: "Roedd yr heddlu yn ymateb i wrthdrawiad oedd wedi digwydd cyn i swyddogion gyrraedd."

Fe wnaeth "anhrefn ar raddfa fawr" ddilyn gyda cheir yn cael eu gosod ar dân. 

Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi arestio nifer o bobl yn dilyn yr anhrefn.

Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo â teuluoedd y bechgyn wedi marw a bod angen ymchwilio i'r gwrthdrawiad a'r anhrefn a ddilynodd.

"Nid ydym yn disgwyl gweld golygfeydd fel y rhain yn ein cymunedau, yn enwedig cymuned glos fel Trelái," meddai.

"Mae graddfa'r trais a welwyd tuag at y gwasanaethau brys a'r difrod i eiddo a cherbydau yn cwbl annerbyniol.

"Ein ffocws bellach yw ymchwilio'n lawn i amgylchiadau'r gwrthdrawiad a'r golygfeydd gwarthus a dilynodd. Mae rhai wedi eu harestio mewn cysylltiad gyda'r anhrefn a byddwn yn parhau gyda phresenoldeb sylweddol yn yr ardal am weddill yr wythnos a'r penwythnos."

Difrod

Dywedodd yr heddlu am 20:20 bod nifer fawr o heddlu ar safle’r gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden yn ardal Trelái, ac y dylai pobl "osgoi dyfalu" nes fod gyda nhw'r ffeithiau am beth oedd wedi digwydd.

Roedd y lôn ar gau nos Lun a’r heddlu yn gofyn i bobol “osgoi'r ardal”.

Roedd difrod i geir heddlu a thân gwyllt wedi ei daflu at yr heddlu. Toc cyn hanner nos cafodd car ei roi ar dân, ac un arall ei droi wyneb i waered.

Dywedodd Jane Palmer, perchennog y car a gafodd ei roi ar dân, ei bod hi a’i theulu wedi gwylio’r drwy’r ffenestr wrth iddo ddigwydd.

Ceisiodd y teulu atal y tân yn ddiweddarach gan ddefnyddio pibell ddŵr o’u gardd.

“Dwi’n anabl felly nawr rydw i’n styc heb fy nghar,” meddai Jane Palmer.

“Pam maen nhw'n gwneud hyn? Mae'n wirion bost.”

'Cadw draw'

Wrth i'r anrhefn waethygu roedd heddlu gwrth-reiat, heddlu yn marchogaeth ceffylau, a hofrennydd yno er mwyn ceisio cael tref ar y dyrfa.

Dywedodd un o uwch-swyddogion yr heddlu fod aelod o’r cyhoedd wedi dioddef ymosodiad oherwydd eu bod nhw'n cael eu hamau o fod yn swyddog cudd.

“Mae nifer fawr o swyddogion yno yn sgil y gwrthdrawiad, ond hefyd i leihau anhrefn sy’n parhau yno,” meddai Heddlu Caerdydd.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n gysylltiedig i adael y lleoliad ar unwaith ac yn gofyn i drigolion lleol gadw draw nes y daw’r sefyllfa i ben yn ddiogel.”

'Annog'

Yn ddiweddarach, am 23:00, fe gyhoeddodd yr heddlu ddiweddariad gan ddweud:

“Yn fuan ar ôl 6pm, cawsom adroddiad o wrthdrawiad ffordd difrifol ar Ffordd Snowden.

“Ymatebodd yr heddlu i’r gwrthdrawiad, a oedd eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd y swyddogion.

"Mae angen i ni sicrhau bod y gwrthdrawiad yn cael ei ymchwilio yn drylwyr. Mae swyddogion yn y fan a'r lle ac yn rheoli anhrefn ar raddfa fawr.

"Unwaith eto, rydym yn annog unrhyw un sy'n cymryd rhan neu sy'n gwylio i adael ar unwaith. Rydym yn deall pryder trigolion lleol ac rydym yn gofyn i chi aros tu fewn."

Daeth diweddariad arall am 01:10 ddydd Mawrth yn dweud bod pobol wedi eu harestio a bod gan yr heddlu bresenoldeb mawr yn yr ardal o hyd. 

Llun: Bronwen Weatherby / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.