Newyddion S4C

Jack a Millie

Heddlu'n ymchwilo wedi i gŵn gael eu dwyn o fferm

NS4C 23/05/2023

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gŵn gael eu dwyn o fferm yn ne Cymru.

Fe wnaeth dau gi gael eu dwyn o fferm yng Nghwm-iou ger y Fenni ar 12 Mai, meddai'r heddlu.

Roedd y cŵn, Jack Russell pedwar oed o'r enw Jack a Jack Russell arall dwy oed o'r enw Millie, wedi cael eu dwyn o'r fferm tua 18:30 ar y dyddiad hwnnw.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2300155830.

Llun: Heddlu Gwent

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.