Newyddion S4C

HEDDLU GWENT

Heddlu yn trin marwolaeth bachgen blwydd oed fel un 'heb esboniad'

NS4C 22/05/2023

Cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod yn trin marwolaeth bachgen blwydd oed yng Nghwmbrân fel un 'heb esboniad'.

Cafodd yr heddlu wybod fod argyfwng meddygol mewn cartref yn ardal St Dials fore Mawrth, 16 Mai.  

Fe aeth plismyn yno yn ogystal ag aelodau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Ambiwlans Awyr. 

Daeth cadarnhad bryd hynny fod y bachgen wedi marw yn y lleoliad.  

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Emma Bartholomew : " Mae'r teulu yn dal i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, ac yn gofyn am breifatrwydd." 

Ychwanegodd Heddlu Gwent y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.   

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.