Newyddion S4C

NS4C

Pobl hŷn yn 'peryglu eu hiechyd' oherwydd y pwysau ar y GIG

NS4C 23/05/2023

Gall pobl hŷn fod yn peryglu eu hiechyd yn sgil pwysau ar y GIG yn ôl canfyddiadau arolwg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Yn ôl canfyddiadau'r arolwg, roedd 40% o bobl hŷn a gafodd eu holi yn 'llai tebygol' o ymweld ag Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, neu gael apwyntiad gyda Meddyg Teulu. 

Fe wnaeth yr arolwg ganfod hefyd bod 9 o bob 10 o bobl hŷn yn 'poeni am gyflwr y GIG' gyda mwy na 75% yn poeni am wasanaethau gofal cymdeithasol. 

Yn sgil y canfyddiadau, mae'r Comisiynydd Heléna Herklots yn poeni na fydd nifer o bobl hŷn yn gofyn am help meddygol ar adegau a allai fod yn "ddifrifol" a'r cyfnodau pan fo "angen iddynt ymweld â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys".

Yn sgil y canfyddiadau, mae'r Comisiynydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd ac wedi galw am weithredu er mwyn sicrhau fod bobl hŷn yn gwneud y mwyaf o'r gofal sydd ar gael iddynt.

Mae'r Comisiynydd yn awyddus i glywed gan bobl hŷn er mwyn iddynt rannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd "yn enwedig os yw pwysau ar wasanaethau wedi gweithredu fel rhwystr i rywun sydd angen neu sy’n cael triniaeth".

Gallant wneud hyn drwy gysylltu dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost. 

'Pryder'

Wrth ymateb i ganfyddiadau'r arolwg, dywedodd y Comisiynydd Heléna Herklots ei bod yn "amlwg o’r canfyddiadau bod cryn dipyn o bryder ymhlith pobl hŷn ynglŷn â chyflwr presennol y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

"Mae hyn yn achos pryder mawr os yw pobl hŷn yn osgoi gofyn am help meddygol os oes ei angen arnynt, gan y gallai hynny fod yn peryglu eu hiechyd, boed hynny yn ystod cyfnod o argyfwng, neu yn y tymor hwy.

"Mi wn fod staff y GIG wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i ddelio â phob math o bwysau yn ystod misoedd y gaeaf, ond mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn teimlo na ddylent ofyn am yr help sydd ei angen arnynt gan y GIG."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.