Newyddion S4C

Madeleine McCann

Madeleine McCann: Heddlu yn bwriadu archwilio cronfa ddŵr ym Mhortiwgal

NS4C 22/05/2023

Mae heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann yn bwriadu archwilio cronfa ddŵr ym Mhortiwgal.

Bydd yr heddlu yn gwneud hynny ar gais heddlu yn yr Almaen.

Maen nhw’n credu fod Christian Brueckner, un o’r rhai sy’n cael eu hamau o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann, wedi ymweld â’r gronfa.

Mae’r gronfa ger argae Arade, 50 cilometr o’r man lle diflannodd y plentyn tair oed yn Praia da Luz ar 3 Mai, 2007.

Mae Christian Brueckner, 45, o’r Almaen eisoes yn y carchar wedi iddo gael ei ddedfrydu i saith mlynedd o dan glo am dreisio ym Mhortiwgal yn 2005.

Cyhoeddwyd yn 2022 ei fod ymysg y rhai sy'n cael eu hamau gan heddlu Portiwgal o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann.

Nid yw wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â’r achos a mae’n gwadu unrhyw gysylltiad.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.