Newyddion S4C

Trosedd yrru: Suella Braverman yn mynnu iddi ymddwyn yn briodol

22/05/2023
Suella

Mae'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn mynnu ei bod hi wedi ymdrin â throsedd am or-yrru, mewn modd priodol.

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak yn ystyried a ddylai gynnal ymchwiliad ffurfiol i'r mater, yn sgil honiadau fod Suella Braverman wedi gofyn i weision sifil ei helpu i osgoi derbyn pwyntiau ar ei thrwydded yrru ar ôl cael ei dal yn gyrru'n rhy gyflym.

Yn ôl adroddiadau, fe ofynnodd yr Ysgrifennydd Cartref i swyddogion drefnu cwrs ymwybyddiaeth cyflymder preifat ar ei chyfer hi yn unig, yn hytrach na chymryd pwyntiau ar ei thrwydded.

Yn ei sylwadau cyntaf ers i'r ffrae gorddi, dyw Mrs Braverman ddim yn gwadu iddi ofyn i weision sifil i ymyrryd. 

Pan ofynwyd iddi a wnaeth hi ofyn i swyddogion drefnu cwrs ar ei chyfer hi yn unig, dywedodd: "Yr haf diwethaf fe wnes i yrru'n rhy gyflym, rwy'n difaru hynny. Talais y ddirwy ac fe gymrais y pwyntiau, ond rydym nawr yn canolbwyntio ar weithio ar ran pobl Prydain. " 

O dan ragor o bwysau i ymateb i'r un cwestiwn, dywedodd: “ Mewn cyswllt â'r broses, rwyf yn canolbwyntio ar weithredu ar ran pobl Prydain, gwneud fy swydd fel Ysgrifennydd Cartref, ond yr hyn rwy'n fodlon ei ddweud ydy, yn fy marn i, rwy'n hyderus na wnes i unrhywbeth o'i le." 

Ail adroddodd hynny droeon, wrth gael ei holi gan y gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Llun. 

Fe wnaeth y Sunday Times adrodd ddydd Sul fod Mrs Braverman wedi gofyn i staff yn y Swyddfa Gartref i’w helpu i drefnu cwrs ymwybyddiaeth cyflymdra iddi hi yn unig yn hytrach na mewn grŵp.

Fe wrthododd swyddogion y cais, ac yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Mrs Braverman droi at gynorthwyydd gwleidyddol i geisio ei helpu i ddod at drefniant lle na fyddai’n gorfod mynychu cwrs gyda gyrwyr eraill. 

Roedd hynny’n cynnwys y posibilrwydd o gwblhau cwrs ar-lein dan ffug enw, neu gyda'r camera wedi ei ddiffodd.

Cafodd ei dal yn gyrru tu allan i Lundain tra’n Dwrnai Cyffredinol yr haf diwethaf.

Yn y pen draw, fe benderfynodd dderbyn y tri phwynt ar ei thrwydded.

Mae'r pleidiau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad i’r honiadau.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak ddydd Sul bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi “mynegi edifarhad”, ond nad oedd wedi siarad â hi eto am y mater.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Lafur: “Rydyn ni angen ymchwiliad ar unwaith mewn i beth sydd wedi digwydd yma, gan gychwyn gyda Laurie Magnuss yn edrych sut y mae hyn yn ffitio i mewn gyda’r cod gweinidogol”.

Fe ddywedodd ffynhonnell yn agos i Mrs Braverman fod y tocyn gyrru wedi ei adrodd ar y pryd i Swyddfa’r Cabinet.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.