Heddlu yn ymateb wrth i yrwyr ymgynnull ar draeth yng Ngwynedd

Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gyflwyno gorchymyn gwasgaru, ar ôl i yrwyr ymgynnull ar draeth ym Morfa Bychan ger Porthmadog dros y penwythnos.
Derbyniodd sawl gyrrwr adroddiad yn gysylltiedig â throseddau traffig, wedi i nifer o geir ymgynnull ar draeth Graig Ddu.
Fe gafodd un cerbyd ei gymryd o'r safle gan blismyn, mewn cyswllt â gyrru gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd Heddlu De Gwynedd, Tîm Heddlu Cymunedol, Uned Plismona'r Ffyrdd a Swyddogion Morwrol ar Draeth Morfa Bychan yn parhau i gydweithio i fynd i’r afael ag achosion o yrwyr yn ymgynnull mewn cerbydau, gan ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol.