Newyddion S4C

S4C

Nifer yr achosion o ddwyn neu ddinistro diffibrilwyr ar eu huchaf yn ardal Heddlu De Cymru

NS4C 22/05/2023

Heddlu De Cymru sydd wedi cofnodi y nifer uchaf o achosion o ddiffibrilwyr yn cael eu dinistrio neu eu dwyn ar draws y DU yn ôl ystadegau newydd.

Rhwng 2020 a 2022, mae data heddlu a gasglwyd ac a ddadansoddwyd gan freebets.com yn dangos bod fandaliaid wedi targedu dyfeisiau achub bywyd 93 o weithiau ar draws y Deyrnas Unedig dros y tair blynedd diwethaf.

Roedd 15 o'r achosion rheini yn ardal Heddlu De Cymru yn unig, ac roedd 15 arall wedi eu dwyn.

Mewn un achos, dywedodd Heddlu’r De fod troseddwyr wedi tynnu diffibriliwr allan o'i focs a'i daflu i afon.

Dywedodd Estelle Stephenson, Pennaeth Partneriaethau Iechyd Sefydliad British Heart Foundation bod yr ystadegau yn “ddigalon.”

“Mae’n hynod ddigalon clywed achosion o ddiffibrilwyr yn cael eu difrodi neu eu dwyn, gan ei fod yn golygu na ellir defnyddio’r dyfeisiau achub bywyd hyn mewn sefyllfaoedd lle mae eu hangen fwyaf”, meddai.

'Argyfwng'

Mae'r dyfeisiau, sydd yn costio gymaint â £2,500 yn dod â chyfarwyddiadau llais i arwain yr achubwr trwy bob cam.

Unwaith y bydd y padiau wedi'u gosod ar frest y claf, mae'r ddyfais yn gwirio rhythm ei galon ac yn rhoi sioc os oes angen.

Dywedodd Ms Stephenson, o Sefydliad British Heart Foundation: “Mae ymchwil yn dangos y gall CPR cynnar a defnyddio diffibriliwr ddyblu’r siawns o oroesi ar ôl trawiad ar y galon os nad yw'r unigolyn mewn ysbyty.

“Mewn argyfwng, gall mynediad cyfagos at ddiffibriliwr olygu’n llythrennol y gwahaniaeth rhwng bywyd neu farwolaeth, gan sicrhau bod yr unigolion yn byw nes bod y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd.”
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.