Newyddion S4C

Caerdydd yn erbyn Llanymddyfri

Llanymddyfri yn bencampwyr Uwch Gynghrair Rygbi Cymru

NS4C 21/05/2023

Mae Llanymddyfri wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru Indigo ddydd Sul.

Fe gurodd y Porthmyn Caerdydd ar eu tomen eu hunain ym Mharc yr Arfau o 24-8.

Fe ddaeth y fuddugoliaeth diolch i ddau gais gan y mewnwr Lee Rees.

Roedd Caerdydd wedi gorffen yn gyntaf a Llanymddyfri yn ail yn y gynghrair cyn cystadlu yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Dyma’r tro cyntaf i Lanymddyfri ennill y gystadleuaeth.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.