Giro d’Italia: A fydd Geraint Thomas yn y pinc ar ddiwedd yr wythnos?

Mae cystadleuwyr y Giro d'Italia yn cymryd diwrnod o saib ddydd Llun ac mae’r Cymro Geraint Thomas yn parhau yn yr ail safle gyda chwe chymal yn weddill.
Roedd Thomas wedi gwisgo’r Maglia Rosa - y crys pinc sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y ras, am y tro cyntaf yn ei yrfa yn gynharach yn yr wythnos cyn ildio’r awenau i Bruno Armirail o Ffrainc ddydd Sadwrn.
Roedd Thomas wedi ennill ychydig o amser nôl ar y cymal ddydd Sul a bellach mae un munud ag wyth eiliad tu ôl i'r Ffrancwr.
Fe fydd y ras yn dod i ben yn Rhufain ddydd Sul ac mae Thomas mewn lle da i ychwanegu’r Maglia Rosa i’w palmarès hirfaith.
Mae ennill y Giro wedi bod yn uchelgais i’r Cymro ar ôl iddo sefyll ar bob gris podiwm y Tour de France.
Mae Thomas wedi cystadlu yn y Giro ddwywaith o'r blaen ond bu'n rhaid iddo adael y ras yn 2017 oherwydd gwrthdrawiad gyda beic modur ac yn 2020 ar ôl torri ei glun pan darodd ei feic botel o ddŵr.
Fe fydd y ras yn dechrau nôl ddydd Mawrth dros 203 cilomedr yn y mynyddoedd o Sabbio Chiese i Monte Bondone.
Mae Primož Roglič yn dal yn dynn ar sodlau Thomas, dim ond dwy eiliad y tu ôl iddo o hyd.
Felly mae'n debyg bydd y frwydr dros y diwrnodau nesaf rhwng y ddau yma. Mae Roglič wedi bod yn gwisgo rhwymyn ar ei ben-glin ar ôl iddo gwympo yn gynharach yn y ras.
Mae Thomas mewn cyflwr da, ac fe fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 37 oed ddydd Iau.
Mae tri chymal caled o’i flaen yn y mynyddoedd yr wythnos yma cyn y ras yn erbyn y cloc dros 18.6 cilomedr ddydd Sadwrn a'r cymal olaf i brifddinas yr Eidal ddydd Sul.
Llun: Twitter/Geraint Thomas