Rhagolwg Cymru Premier JD: Hwlffordd yn ymweld â'r Fflint
Bydd dwy gêm gynghrair yn cael eu cynnal ar Gae-y-Castell dros y penwythnos, a hynny gan i’r gemau gwreiddiol gael eu gohirio ym mis Awst wedi i bibell ddŵr fyrstio yn Sir y Fflint.
Bydd Y Fflint felly yn herio Hwlffordd brynhawn Sadwrn, cyn i Gei Connah groesawu Llansawel amser cinio ddydd Sul.
Mae gan Gei Connah (2il) ddwy gêm wrth gefn, a byddai ennill y ddwy yn eu gadael saith pwynt uwchben Pen-y-bont (3ydd), a saith pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd (1af).
Mae’r Fflint, Hwlffordd a Llansawel ar y llaw arall, mewn brwydr i osgoi’r cwymp, gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r tri chlwb rhwng y 9fed a’r 11eg safle.
Y Fflint (11eg) v Hwlffordd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn 10-dyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf mae’r Fflint wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru ble byddan nhw’n chwarae gartref yn erbyn y clwb isaf sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Bae Trearddur o’r drydedd haen.
Bydd Lee Fowler felly yn dechrau breuddwydio am weld Y Fflint yn codi Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 1954, ac yn sicrhau pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond cyn y gêm fawr yn erbyn Bae Trearddur ar ddiwedd mis Ionawr mae angen i’r Fflint ganolbwyntio ar geisio codi o waelodion y Cymru Premier JD, gan mae’r Sidanwyr sydd yn eistedd yn safleoedd y cwymp gyda Llanelli ar ddechrau’r penwythnos.
Dyw’r Fflint m’ond wedi ennill dwy o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf (vs Llanelli a Llansawel), ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio i’r ail haen am y tro cyntaf ers 2020.
Ar ôl hawlio lle’n Ewrop y tymor diwethaf, mae Hwlffordd hefyd mewn dipyn o frwydr i osgoi’r cwymp eleni gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu’r Adar Gleision, Llansawel a’r Fflint rhwng y 9fed a’r 11eg safle.
Wedi dweud hynny, mae gan Hwlffordd gemau ffafriol i’w chwarae cyn yr hollt, a dyw cyrraedd y Chwech Uchaf ddim yn gwbl amhosib chwaith.
Mae Hwlffordd wedi curo’r Bala a Bae Colwyn mewn gemau diweddar yn ogystal â chael gemau cyfartal yn erbyn Caernarfon a Chei Connah, ac felly mae’r hyder yn uchel yng ngharfan Tony Pennock.
Mae Hwlffordd wedi ennill pump o’u chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Y Fflint hefyd, yn cynnwys buddugoliaeth o 3-1 ar Ddôl y Bont ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌➖❌➖➖
Hwlffordd: ❌➖✅❌✅
Cei Connah (2il) v Llansawel (10fed) | Dydd Sul – 12:30
Mae Cei Connah yn weddol saff o’u lle yn y Chwech Uchaf, ond byddai buddugoliaeth ddydd Sul yn cadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Nomadiaid wedi mynd ar rediad rhagorol o naw o gemau cynghrair heb golli gan ddringo i’r ail safle gyda dwy gêm wrth gefn.
Efallai bod y Seintiau’n bell ar y blaen ar frig y tabl, ond mae’n werth nodi bod y clwb sy’n gorffen yn 2il yn camu’n syth i Ewrop eleni, a dyna fydd y nod i’r Nomadiaid.
Mae Llansawel yn dechrau’r penwythnos un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl eu gêm gyfartal yn erbyn Met Caerdydd yng nghanol wythnos.
Dyw Llansawel m’ond wedi ennill un o’u naw gêm ddiwethaf (cyfartal 2, colli 6), a bydd angen record well na hynny yn eu gemau nesaf os am osgoi’r cwymp eleni.
Enillodd Cei Connah o 3-0 yn y gêm gyfatebol ar yr Hen Heol gyda Harry Franklin yn taro hatric i’r Nomadiaid ar ôl dod ar y cae fel eilydd yn ystod yr egwyl.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖✅✅✅✅
Llansawel: ͏❌✅➖❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.