Newyddion S4C

Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni

Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r unigolion fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd eleni.

Gyda 75 diwrnod i fynd tan gychwyn Prifwyl Llŷn ac Eifionydd, cyhoeddwyd fore ddydd Llun enwau'r rhai sydd wedi eu hanrhydeddu am eu cyfraniad arbennig i Gymru, yr iaith a’u cymunedau lleol.

Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo eleni mae capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022, y fowlwraig Anwen Butten, y darlledwyr Aled Hughes a Geraint Lloyd, y Parchedicaf Andrew John a chyn-gapten tîm pêl-droed Cymru ac is-lywydd UEFA, Laura McAllister.

Ymhlith y bobl fydd yn derbyn Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl, bydd Cadeirydd Eisteddfod yr Urdd, Dyfrig Davies, a Chyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Siân Eirian.

'Braint'

Hefyd yn Gadeirydd ar sefydliad sector teledu TAC, mae Dyfrig Davies, o Landeilo, wedi derbyn yr anrhydedd ar sail “blynyddoedd o gefnogaeth, yn wirfoddol a phroffesiynol, er mwyn sicrhau bod diwylliant Cymru a’r Gymraeg yn ffynnu”.

Dywedodd Dyfrig Davies: “Mae e’n rhywbeth dw i’n teimlo sydd yn anrhydedd, hynny yw, cael ei chydnabod gan eich cyd-wladwyr yn beth hyfryd iawn.

Image
Dyfrig Davies
Dyfrig Davies

“Dw i yn credu fod system yr Orsedd, ar ei newydd wedd yn arbennig, yn system dda iawn, iawn ‘da ni’r Cymru. Fe gewch chi bawb gyda’i gilydd yna.

“Dwi’n teimlo fel bod e’n anrhydedd, nid i fi’n bersonol ond i’r mudiadau dw i’n cynrychioli fel cadeirydd – yr Urdd wrth gwrs, a TAC.

"Felly i’r bobl sy’n cydweithio hefo fi a’r gwirfoddolwyr ac i bawb sy’n ymwneud gyda’r Urdd, dyna le dwi’n teimlo dylai’r anrhydedd orwedd, i ddweud y gwir. D’ych chi ddim yn wneud gwaith gwirfoddol neu waith y genedl er mwyn chwennych anrhydeddau.

“Ond wrth gwrs, mae’n fraint pan mae’n dod i chi a chi yn teimlo hynny’n fraint.”

'Diwrnod arbennig'

Yn cael ei chydnabod am ei dylanwad “anferth” ar yr Urdd, mae Siân Eirian, o Langernyw, hefyd yn gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C. Bydd Siân yn rhoi’r gorau i fod yn gyfarwyddwr i’r Urdd eleni.

Dywedodd Siân Eirian:  “Mi oedd sefydlu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn allweddol o’r rhan twf y Gymraeg yma’n Nghymru.

Image
Siân Eirian
Siân Eirian

“Mae o dal i fynd o nerth i nerth, yr un mor boblogaidd rŵan a’r un ethos o addysgu plant yn y Gymraeg drwy adloniant.

“Dwi’n edrych ymlaen i’r seremoni, bod yng nghanol teulu a ffrindiau i rannu’r profiad, a hefyd bod yna hefo aelodau eraill o’r orsedd ar ddiwrnod arbennig.

“Ond nid y lleoliad yn unig sy’n bwysig i mi, mae’r amseriad hefyd; eleni, dwi’n rhoi’r gorau i fod yn gyfarwyddwr ar Eisteddfod r Urdd, ac mae’r cysylltiad hefo’r Urdd yn mynd yn ôl, o’r rhan gwaith, i’r 1980au.

“Mae o wedi bod yn bleser i mi gael gweithio hefo cyd-weithwyr a gwirfoddolwyr arbennig yn yr Urdd ac yn S4C.

“Mae o wedi bod yn bleser pur cael gyrfa yn gelfyddydau a’r cyfryngau, ac wrth gwrs cael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gydol y blynyddoedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.