Geraint Thomas yn ennill ychydig o amser yn ôl yn y Giro

Mae Geraint Thomas yn dal yn yr ail safle yn y Giro d’Italia ond wedi ennill ychydig o amser yn ôl yn erbyn Bruno Armirail yn y crys pinc.
Fe orffennodd Thomas gymal 15 o’r ras dros 195 cilomedr o Seregno i Bergamo yn ddiogel yn y peloton, 33 eiliad o flaen Armiral.
Brandon McNulty o’r UDA oedd yn fuddugol ar y cymal.
Mae Primož Roglič yn dal yn dynn ar sodlau Thomas, dim ond dwy eiliad y tu ôl iddo o hyd.
Bydd diwrnod o saib ddydd Llun cyn i’r ras ddechrau nôl dros 203 cilomedr yn y mynyddoedd o Sabbio Chiese i Monte Bondone.
Llun: Twitter/Ineos Grenadiers